Adam Price
Plaid Cymru oedd y cyntaf o’r pleidiau yng Nghymru i lansio eu maniffesto nhw – Adam Price sy’n siarad â golwg360 am yr addewidion.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad, sy’n llefarydd y blaid ar yr economi, mae angen “cryfhau llaw Cymru” yn y trafodaethau â San Steffan wrth i Lywodraeth nesaf Prydain arwain y wlad at Brexit.

A bu Canolfan Llywodraethiant Cymru yn cyflwyno seminar ar y ffordd y gall canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol fynd yng Nghymru.

Roedd canfyddiadau’r Athro Roger Scully yn ddigon syfrdanol, gyda’r polau piniwn yn dangos y gallai’r Blaid Lafur golli tua 9 sedd i’r Ceidwadwyr ar 8 Mehefin.

Mae Daran Hill o gwmni Positif Politics yn cynnig ei ddadansoddiad o’r canfyddiadau, wrth i’r ymgyrchu ledled y wlad ddechrau poethi!