Mae dau ddyn wedi cael arestio yn dilyn “ymosodiad difrifol” yng Nghaerdydd yn ystod oriau mân bore Mercher.

Cafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu galw i ymdrin â’r achos ar Stryd Allerton, Trelluest, am 3.40yb.

Mae’r dau ddyn 46 a 52 blwydd oed yn y ddalfa yn bresennol.

Bu’n rhaid cludo un dyn i Ysbyty Prifysgol Cymru, ond nid yw ei anafiadau yn bygwth ei fywyd.

Mae Stryd Allerton a Ffordd Court o’r gyffordd â Ffordd Clare a Stryd Sussex ar gau tra bod ymholiadau’r heddlu yn parhau.