Mae Llafur am weld plismona'n cael ei ddatganoli
Mae’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi eu maniffesto swyddogol ac er bod nifer o’r cynlluniau yn amherthnasol i Gymru, mae’r ddogfen yn datgelu ambell gynllun penodol i’r wlad.

Yn y ddogfen mae’r blaid yn addo “gwneud y trefniant datganoli yn fwy cynaliadwy” a dilyn awgrymiadau drafft amgen Bil Cymru a gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru’r llynedd.

O fewn drafft amgen Bil Cymru amlinellodd Llywodraeth Cymru eu bwriad i weld datganoli pellach, ac mae’r Blaid Lafur yn awgrymu yn y maniffesto ei bod am weld plismona yn cael ei datganoli i Gymru.

Mae’r maniffesto hefyd yn nodi bod angen “diwygiad tymor hir” o sut mae’r Deyrnas Unedig yn dosbarthu gwariant cyhoeddus er mwyn sicrhau “nad oes unrhyw genedl neu ranbarth dan anfantais.”

Buddsoddi yng Nghymru

Cynllun arall sydd yn unigryw i Gymru yw bwriad y blaid i fuddsoddi £10 biliwn o Fanc Buddsoddi Cenedlaethol Llafur  ym Manc Datblygu Cymru.

Mae’r ddogfen hefyd yn nodi y bydd Cymru yn cael ei chynnwys yng nghynllun Llafur i ehangu a thrydanu rheilffyrdd y Deyrnas Unedig.