Llys y Goron Casnewydd Llun: Wicipedia
Mae dynes o’r Fenni wedi cael dirwy am bori trwy ddogfennau meddygol cyfrinachol un claf fwy na hanner cant o weithiau.

Bellach mae Sally Anne Day, 41 oed, wedi ymddiswyddo o’i gwaith fel gweinyddydd mewn meddygfa ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Rhwng Awst 2015 a Gorffennaf 2016, roedd hi wedi edrych ar ddogfennau un claf 51 o weithiau, ac ar ddogfennau claf arall wyth gwaith.

Ymddangosodd gerbron Llys y Goron Casnewydd heddiw, ac roedd hi wedi pledio’n euog i ddau drosedd o dan adran 55 o’r Ddeddf Gwarchod Data mewn gwrandawiad cynt.

Cafodd ddirwy o £200 am bob trosedd, a chafodd orchymyn i dalu £350 o gostau a £40 o daliadau ychwanegol i’r dioddefwr.

“Unwaith eto rydym yn gweld pobol yn mynd i drafferthion mawr drwy anwybyddu cyfrinachedd cleifion a’u cyfrifoldebau gwarchod data,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.