Ian Brady a Myra Hindley Llun: PA
Mae dynes o ardal Aberystwyth yn dweud ei bod hi’n dal i deimlo ias wrth feddwl am y plant gafodd eu lladd adeg llofruddiaethau’r Moors yn yr 1960au.

Torrodd y newyddion neithiwr fod y llofrudd, Ian Brady, wedi marw yn 79 oed ar ôl treulio mwy na phum degawd dan glo.

Roedd yntau a’i bartner Myra Hindley, fu farw yn 2002, wedi arteithio a lladd pump o blant gan gladdu pedwar o’r dioddefwyr ar rostir Saddleworth yn ardal Swydd Efrog. Mae corff un bachgen, Keith Bennett, yn dal heb ei ganfod.

“Y cyfan rwy’n ei gofio yw’r sioc o glywed fod rhywbeth mor erchyll wedi digwydd mor agos atom,” meddai Moelwen Gwyndaf wrth golwg360.

Roedd hi a’i theulu yn byw yn ardal Halifax rhwng 1963 ac 1965 gyda’i thad yn Weinidog gyda’r Undodiaid yn yr ardal.

“Mae’n debyg i’r lladd ddigwydd rhwng Gorffennaf 1963 a Hydref 1965, pan roeddem yn byw yno a chynhaliwyd yr achos mae’n debyg yn Ebrill 1966, rhai misoedd cyn i ni symud oddi yno yn haf 1966,” meddai Moelwen Gwyndaf.

“Roeddem ni’r un oedran â’r plant, ac fe allai fod wedi digwydd i unrhyw un gan gynnwys ein teulu ni,” ychwanegodd.

“Sioc”

Dywedodd fod rhostiroedd yr ardal yn rhan fawr o’r dirwedd  – “roedd mynd am dro ar y moors yn rhywbeth roeddem yn ei wneud fel teulu, ac roedd erchylltra’r peth yn dipyn o sioc.

“Mae ias yn mynd lawr fy nghefn weithiau wrth feddwl y gallen i, fy chwaer neu fy mrawd fod wedi bod yn ddioddefwyr,” meddai.

Cafodd Ian Brady a Myra Hindley eu carcharu am oes am ladd John Kilbride 12, Lesley Ann Downey 10, Edward Evans, 17, Pauline Reade, 16, a Keith Bennett 12.