Tracy Kearns o Fae Cinmael (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae  dyn 48 oed wedi ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug bore ma wedi’i gyhuddo o lofruddio ei bartner 43 oed.

Mae Anthony James Bird wedi’i gyhuddo o lofruddio Tracy Kearns, mam i ddau o blant, yn eu cartref ym Mae Cinmel, Sir Conwy rhwng Mai 7 a Mai 11.

Cafodd yr awdurdodau wybod ar Fai 7 fod Tracy Kearns ar goll, a daeth yr heddlu o hyd i’w chorff ddydd Sadwrn (Mai 13).

Fe fydd yr achos yn erbyn Anthony James Bird yn cael ei gynnal ar 13 Tachwedd a bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Fe ymddangosodd yn Llys y Goron yr Wyddgrug bore ma drwy gyswllt fideo o garchar Altcourse yn Lerpwl.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn y llys eto ym mis Gorffennaf ar gyfer gwrandawiad cyn yr achos llys.