Leanne Wood Llun: Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi lansio eu maniffesto heddiw gydag addewid i “oresgyn bygythiadau a manteisio ar gyfleoedd Brexit” wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r maniffesto yn cynnwys cynigion i “amddiffyn, cadw a hybu” Cymru ac yn canolbwyntio ar ddiogelu economi a gwasanaethau cyhoeddus y wlad.

Yn ôl arweinydd y Blaid, Leanne Wood, mae’r maniffesto yn amlinellu cynllun i ddiogelu llu o feysydd gan gynnwys twristiaeth, amaeth, ac addysg uwch rhag y “bygythiadau” a ddaw yn sgil Brexit.

Wrth lansio eu cynlluniau yn y Rhondda, fe rybuddiodd Leanne Wood  am oblygiadau Llafur rhanedig a mwyafrif i’r Ceidwadwyr.

Bwriad y maniffesto yn ôl arweinydd y Blaid yw i “wrthsefyll risgiau plaid Dorïaidd greulon a byrbwyll” ac i “amddiffyn Cymru rhag y Torïaid.”

Dyma’r maniffesto cyntaf yng Nghymru i gael ei gyhoeddi cyn yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin, ac mae’r blaid yn honni fod y cynlluniau wedi eu costio’n llawn.

“Cyfleoedd posib”

Wrth siarad ar raglen BBC Radio 4 fe bwysleisiodd Leanne Wood neges y blaid ymhellach, gan nodi ei bod hi’n bosib y bydd “cyfleoedd” yn dod i’r amlwg wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Rydym ni angen llais cryf nawr wrth i Gymru adael yr Undeb Ewropeaidd – a dim ond Aelodau Seneddol Plaid Cymru sydd yn medru darparu’r llais yna i amddiffyn Cymru ac i ddatblygu’r wlad wrth i ni symud ymlaen dros y misoedd a blynyddoedd nesaf.”

“Mae’n bosib fydd yna gyfleoedd wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, cyn belled ag yr ydym ni yn mynd ati yn iawn a cyn belled â’n bod ni ddim yn gadael yn y modd mwyaf eithafol. Mae yna gyfleoedd posib ar gyfer cynyddu caffaeliad i gwmnïau lleol.”

 “Gweision cenedlaetholgar”

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi cyhuddo Plaid Cymru o fod yn “weision cenedlaetholgar” i’r Blaid Lafur ac yn mynnu byddai datganoli yn “dinistrio” economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

“Mae maniffesto Plaid Cymru yn sôn am fanteisio ar gyfleoedd, ond mae’n methu a nodi’r holl gyfleoedd am newid maen nhw wedi’u gwastraffu trwy gynorthwyo Llafur dro ar ôl tro,” meddai, Andrew RT Davies.

Democratiaid Rhyddfrydol

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi y byddan nhw yn buddsoddi £7.5 miliwn yn Awdurdodau Heddlu Cymru os fyddan nhw’n dod i rym wedi’r etholiad cyffredinol.

“Mae ein plismyn yn gweithio’n ddiflino er mwyn cadw ni’n ddiogel ond o dan lywodraeth Theresa May maen nhw wedi eu cyfyngu,” meddai llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol sydd â chynllun i wrthdroi’r cynnydd mewn troseddau treisgar ac i hybu hyder cymunedau.”