Llys y Goron yr Wyddgrug, (Llun: Wikipedia)
Fe fydd  dyn 48 oed yn ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw wedi’i gyhuddo o lofruddio ei bartner 43 oed.

Mae Anthony James Bird wedi’i gyhuddo o lofruddio Tracy Kearns, mam i ddau o blant, yn eu cartref ym Mae Cinmel, Sir Conwy rhwng Mai 7 a Mai 11.

Cafodd yr awdurdodau wybod ar Fai 7 fod Tracy Kearns ar goll, a daeth yr heddlu o hyd i’w chorff ddydd Sadwrn (Mai 13).

Roedd Anthony James Bird wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Neil Harrison: “Rwy’n ymwybodol o’r effaith mae’r digwyddiad wedi’i gael yn lleol a hoffwn ddiolch i gymuned Bae Cinmel am eu hamynedd a’u cefnogaeth dros y pum diwrnod diwethaf.”