Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod gyrrwr car wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad traffig rhwng Rhydargaeau ac Alltwalis yn Sir Gaerfyrddin.

Digwyddodd y ddamwain tua 3.15 y prynhawn dydd Llun ar yr A485 ym Mhontarsais.

Roedd y ddamwain rhwng car a lori, a dioddefodd gyrrwr y car anafiadau angheuol.

Mae’r ffordd ynghau ar hyn o bryd o gylchfan Glangwili hyd at garej Windy Corner.