Owen Evans Llun: S4C
Mae un o brif weision sifil Llywodraeth Cymru wedi’i benodi’n Brif Weithredwr newydd S4C.
Bydd Owen Evans yn olynu Ian Jones ar ôl cyfnod o chwe blynedd wrth y llyw, ac yn cydio yn yr awenau ei hun ar 1 Hydref 2017.
Ar hyn o bryd mae Owen Evans yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus lle mae’n gyfrifol am gyllideb o £6.6 biliwn ac am arwain 1,200 o staff, ac fe ymunodd â’r gwasanaeth sifil yn 2010.
Cyn hynny, fe fu’n Gyfarwyddwr elusen Busnes yn y Gymuned yng Nghymru, ac am ddeng mlynedd bu’n gweithio i BT gan gynnwys cyfnod fel aelod o dîm Prydeinig BT ar ddatblygu strategaeth band-eang.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe.
‘Dawn i addasu’
“Rydym yn ffodus iawn i fedru penodi arweinydd i S4C ar gyfer y blynyddoedd nesaf sydd wedi profi ei allu mewn cymaint o feysydd,” meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C.
“Mae Owen wedi dangos fwy nag unwaith yn ei yrfa’r ddawn i addasu a derbyn cyfrifoldebau mawr a newydd, gan gynnwys ym meysydd cyfathrebu technegol a’r iaith Gymraeg.
“Mae’n arweinydd uchel ei barch gyda phrofiad arbennig o adeiladu partneriaethau. Gyda’r unigolion talentog sydd eisoes yn gweithio i S4C, gallwn edrych ymlaen i’r dyfodol yn hyderus,” ychwanegodd.