Tracy Kearns, o Fae Cinmel (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae dyn 48 oed wedi ymddangos o flaen Llys yr Ynadon Llandudno y bore yma wedi’i gyhuddo o lofruddio ei bartner 43 oed.

Ymddangosodd Anthony James Bird i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a’i ddyddiad eni yn unig.

Mae wedi’i gyhuddo o lofruddio Tracy Kearns, mam i ddau o blant, yn eu cartref ym Mae Cinmel, Sir Conwy rhwng Mai 7 a Mai 11.

Cafodd yr awdurdodau wybod ar Fai 7 fod Tracy Kearns ar goll, a daeth yr heddlu o hyd i’w chorff ddydd Sadwrn (Mai 13).

Fe fydd Anthony James Bird yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth.

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Neil Harrison: “Rwy’n ymwybodol o’r effaith mae’r digwyddiad wedi’i gael yn lleol a hoffwn ddiolch i gymuned Bae Cinmel am eu hamynedd a’u cefnogaeth dros y pum diwrnod diwethaf.”