Mae cyfrif Twitter Saesneg ‘BBC Wales’ wedi ennyn cryn dipyn o feirniadaeth ar ôl gwawdio’r Gymraeg yn ystod cystadleuaeth ganu yr Eurovision neithiwr.

Salvador Sobral ddaeth i’r brig gyda’r gân Amar Pelos Dois (I’r Ddau Ohonon Ni).

Dyma’r tro cyntaf erioed i Bortiwgal ennill y gystadleuaeth, ac fe lwyddodd y gân i ennill 758 o bwyntiau.

Dyma’r neges ar dudalen Twitter ‘BBC Wales’ ar ôl y gystadleuaeth:

Ymateb

Mae llu o ddefnyddwyr y wefan gymdeithasol wedi ymateb i’r neges wreiddiol, gan feirniadu agwedd y Gorfforaeth at y Gymraeg.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan BBC Cymru.

Lucie Jones

Daeth Lucie Jones o Bentyrch ger Caerdydd yn bymthegfed yng nghystadleuaeth ganu yr Eurovision yn Kyiv neithiwr – perfformiad gorau’r Deyrnas Unedig ers i Blue orffen yn unfed ar ddeg yn 2011.

Enillodd hi 111 o bwyntiau yn y pen draw ar gyfer ei pherfformiad o’r gân Never Give Up On You – y nifer fwyaf o bwyntiau i’r Deyrnas Unedig ers wyth mlynedd.