Chloe Lou Farrell (Llun: Heddlu'r Gogledd)
Mae’r ddynes fu farw mewn parc gwyliau yn Abersoch wedi cael ei henwi.

Bu farw Chloe Lou Farrell, 22 o Fae Colwyn, wrth i dractor droi drosodd ym mharc The Warren am oddeutu 7.20pm neithiwr.

Cafodd hi driniaeth gan barafeddygon, ond bu farw yn y fan a’r lle.

Mae ymchwiliad ar y gweill i farwolaeth yn y gweithle.

Teyrnged

Mewn teyrnged, dywedodd ei theulu y bydd “colled fawr” ar ei hôl hi.

“Roedd hi’n llawn hwyl, yn fywiog a chanddi synnwyr digrifwch. Roedd hi’n byw bywyd i’r eithaf ac wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i ffrindiau niferus.”

Dywedodd ei theulu ei bod hi wedi treulio sawl gwyliau yn Abersoch yn blentyn.

“Roedd hi’n caru bod yn y cwch ac ar jet-ski ac wedi treulio hafau hir yn gweithio yn y pentref.”