Leanne Wood (Llun: Plaid Cymru)
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi dweud bod “rhaid trechu’r Torïaid dinistriol hyn” wrth iddi ymweld â Llanelli heddiw.

Yn ystod ei hymweliad i lansio ymgyrch Mari Arthur yn y dref, galwodd ar i bobol ifanc gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.

Dywedodd ei bod hi’n credu y gall “pleidlais yr ifanc benderfynu canlyniad yr etholiad, yn enwedig yma yng Nghymru”.

Pobol ifanc

Ychwanegodd: “Mae pobol ifanc yn sinigaidd iawn am yr hyn y gall y prif bleidiau ei gyflwyno.

“Os ydyn nhw’n cofrestru ac yn pleidleisio mewn niferoedd mawr yn yr etholiad hwn, dw i’n credu y gallan nhw gael gwir effaith, felly fy neges i unrhyw un sydd o dan neu o gwmpas 30 oed yw i beidio â gweld yr etholiad hwn fel un sy’n amherthnasol i chi, mae’n berthnasol iawn a gall eich cyfranogiad chi wneud gwahaniaeth mawr.”

Dywedodd mai’r argraff gafodd hi wrth ymweld â nifer o ysgolion y llynedd oedd fod pobol ifanc yn credu nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed.

Llanelli a Chymru gyfan

Sedd Lafur fu Llanelli ers 1922 ac mae’n un o brif seddi targed Plaid Cymru eleni.

Blaenoriaeth Plaid Cymru yn yr etholiad fydd amddiffyn pobol, cymunedau a chenedligrwydd Cymru, a bydd Leanne Wood yn pwysleisio nad oes modd ymddiried yn Llafur i herio’r Ceidwadwyr.

Dywedodd: “Rhaid i ni drechu’r Torïaid dinistriol hyn.

“Rhaid i ni amddiffyn ein pobol, ein cymuned a’n gwlad rhag yr hyn maen nhw’n gallu ei wneud.

“Allwn ni ddim dibynnu ar Lafur i wrthwynebu’r Torïaid; maen nhw’n rhanedig ac mae cynifer o’r ASau Llafur hynny yma yng Nghymru yn barod, yn aros gyda chyllell yn eu dwylo i drywanu eu harweinydd yn y cefn.”

Wrth annerch trigolion y dref, addawodd Mari Arthur y byddai hi’n brwydro i adfywio’r dref a’r siopau.