Mae Heddlu’r Gogledd wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dyn ar amheuaeth o lofruddio Tracy Kearns o Fae Cinmel.

Dydy’r ddynes 43 oed ddim wedi cael ei gweld ers nos Sul ddiwethaf.

Ddydd Iau, cafodd dyn 48 oed ei arestio mewn perthynas â’i diflaniad.

Mae’r chwilio’n canolbwyntio ar ddarn o dir ger Tir Prince.

Mae hi’n cael ei disgrifio fel dynes 5’3″ a chanddi wallt golau at ei hysgwyddau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Gogledd fod yr ymchwiliad drws-i-ddrws yn parhau.