Bangor
Bydd caplaniaeth newydd yn cael ei sefydlu ar gyfer y gymuned LGBT+ ym Mangor nos Lun.

Bydd y gaplaniaeth yn fan cyfarfod ar gyfer unrhyw un sy’n hoyw, lesbiaidd, deurywiol, trawsrywiol, rhyng-rywiol, anrhywiol neu’n ansicr o’u rhywioldeb.

Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal ym mhob rhan o’r esgobaeth, gan gynnig lle diogel i bobol ddod ynghyd i addoli ac i gefnogi ei gilydd.

Y Parchedig Dominic McClean fydd yng ngofal y gaplaniaeth newydd.

Dywedodd: “Mewn byd delfrydol, ni fyddai galw am y fath Gaplaniaeth. Ond mae’r gymuned LGBT+ yn un y mae angen ei chryfhau o fewn ein Heglwys.

“Felly bydd y Gaplaniaeth hon yn cynnig lle i bobol LGBT+ fod yn nhw eu hunain wrth iddyn nhw addoli a mynegi eu cariad at Dduw a’r Iesu, yn ogystal â bod yn adnodd bugeiliol lle gall pobol fod gyda’i gilydd a chefnogi ei gilydd.”

Mae Caplaniaeth debyg eisoes yn bodoli yn Llanelwy.