Prif Weinidog, Carwyn Jones (Llun: Ben Birchall/PA Wire)
Mae’n bosib y gallai ffïoedd dysgu gael eu diddymu yng Nghymru pe bai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol ac yn eu diddymu yn Lloegr.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Carwyn Jones y “byddai’n anodd dychmygu” sefyllfa lle byddai ffïoedd yn cael eu diddymu yn Lloegr heb iddyn nhw gael eu diddymu yng Nghymru hefyd.

Cafodd maniffesto Llafur ei ryddhau i’r wasg ddydd Iau, ac ynddo roedd addewid i ddiddymu ffïoedd dysgu ac i ail-gyflwyno grantiau i fyfyrwyr, cynllun fyddai’n costio £7 biliwn y flwyddyn.

Mae prifysgolion yn medru codi uchafswm o £9,000 ar gyfer cyrsiau i is-raddedigion ond yng Nghymru, dim ond y £3,000 cyntaf sy’n rhaid i fyfyrwyr ei dalu.

Ers 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn talu am gyfran sylweddol o ffïoedd myfyrwyr o Gymru, lle bynnag maen nhw’n dewis astudio yng ngwledydd Prydain.