Mae llys wedi dyfarnu bod yn rhaid i berchennog y Ceredigion Herald dalu £3,650 o ddirwyon am gyhoeddi erthygl oedd yn cynnwys gormod o fanylion am ddioddefwr trosedd rhyw.

Gerbron Llys Ynadon Hwlffordd, cafodd Thomas Sinclair, 37, ei farnu’n euog o dorri cyfraith sydd yn sicrhau anhysbysrwydd hyd oes i ddioddefwyr.

Dadl yr erlynydd yn ystod treial fis diwethaf oedd bod yna ddigon o fanylion yn yr erthygl i alluogi’r cyhoedd i fedru adnabod dioddefwr y drosedd rhyw.

Clywodd y llys bod Thomas Sinclair yn derbyn ei fod wedi cyhoeddi’r stori ond dadleuodd na fyddai modd adnabod dioddefwr y trosedd rhyw o fanylion yr erthygl.

Mi wnaeth cyfreithiwr Thomas Sinclair fynnu fod yna risg isel o’r dioddefwr yn cael ei hadnabod, a hynny oherwydd bod cyn lleied yn darllen y papur.

Bydd Thomas Sinclair yn apelio yn erbyn penderfyniad y llys.