Mae ysgol gynradd yn y Fflint wedi ei chau oherwydd “ddigwyddiad heddlu” tu allan i’r adeilad, yn ôl Cyngor Sir y Fflint.

Mae’n debyg bod prifathro Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair yn y Fflint wedi penderfynu cau’r ysgol am y diwrnod cyfan er mwyn sicrhau diogelwch y plant.

Yn ôl Heddlu’r Gogledd mae Rhodfa Albert a Ffordd Llywelyn wedi eu cau wrth iddyn nhw ddelio â’r digwyddiad.

Dywedodd Cyngor Sir y Fflint bod ysgol uwchradd gyfagos, Ysgol Gatholig Richard Gwyn, yn parhau i fod ar agor.

Nid oes unrhyw adroddiadau bod ysgolion eraill yn yr ardal wedi cael eu cau.