Carafan ymgyrchu UKIP yn 2010 (Editor 5807 CCA3.0)
Fydd plaid UKIP ddim yn sefyll yn holl seddi Cymru yn yr Etholiad Cyffredinol.
Mae’r blaid wedi cydnabod eu bod wedi methu â chael ymgeiswyr mewn wyth o etholaethau, wrth i’r enwebiadau gau neithiwr.
Er gwaetha’r brys oherwydd yr etholiad annisgwyl, fe fydd Llafur, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sefyll ymhob un o’r 40 o etholaeth.
Gwneud gwahaniaeth
Yn ôl sylwebwyr, fe allai presenoldeb ymgeiswyr UKIP wneud gwahaniaeth mewn rhai seddi, erf od disgwyl i’w phleidlais chwalu ar draws y wlad.
Fe allai hynny wneud gwahaniaeth mewn rhai seddi allweddo, pe bai cefnogwyr UKIP yn troi at y Blaid Geidwadol.
Y tro diwetha’ roedd mwyafrif Llafur tros y Toriaid yn llai na phleidlais ymgeiswyr UKIP mewn nifer o seddi, gan gynnwys rhai yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Chasnewydd.
Mewn sedd fel Alun a Glannau Dyfrdwy er enghraifft, fe lwyddodd UKIP i gynyddu ei phleidlais 15% yn yr etholiad cyffredinol dwy flynedd yn ôl, ac yn Ne Clwyd a Wrecsam, cynyddodd ei phleidlais dros 13%.
‘Daeargryn gwleidyddol’
Pe bai’r bleidlais i UKIP yn chwalu yn yr etholiad cyffredinol a’i chefnogwyr yn troi at y Torïaid, fe fydd Cymru’n creu ‘daeargryn gwleidyddol’ ac yn troi’n las am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd.
Yn ôl y polau piniwn, mae’n debygol y bydd llawer o bleidleisiau UKIP yn cael eu llyncu gan y Ceidwadwyr ac y bydd hyn yn eu helpu i gael mwyafrif o seddi yng Nghymru.
Hyd yn oed mewn sedd fel Dwyfor Meirionnydd, fe allai’r ffaith fod ymgeisydd UKIP yn sefyll atal y Ceidwadwyr rhag bygwth yr AS presennol, Liz Saville-Roberts o Blaid Cymru.