Roedd Carwyn Jones yn y pwyllgor (llun senedd tv)
Fe fydd Llafur Cymru yn cyhoeddi maniffesto annibynnol yn ystod y dyddiau nesa’ – er fod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mewn pwyllgor sydd wedi cefnogi dogfen etholiad y blaid Brydeinig.

Ddoe, fe ddywedodd yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, fod y pwyllgor o brif bobol y blaid, wedi rhoi “cefnogaeth unfrydol” i’r prif faniffesto.

Hynny, er fod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi ceisio cadw hyd braich oddi wrth ddrafft o’r ddogfen oedd wedi ei gollwng i’r wasg.

Er fod rhai newidiadau wedi eu gwneud, y gred yw fod y ddogfen derfynol yn debyg iawn i’r drafft – gan gynnwys bwriad i wladoli’r diwydiant rheilffyrdd a chodi treth incwm ar bobol sy’n ennill mwy nag £80,000.

‘Trafodaeth dda’

Yn ôl Jeremy Corbyn, fe gafodd maniffesto Prydeinig y blaid ei gymeradwyo gan y pwyllgor ar ôl trafodaeth dda.

Mae’n dweud y byddai’n gweddnewid bywydau llawer o bobol, gan weithio er lles “llawer yn hytrach na rhai”.

Yn ôl pôl piniwn sy’n cael ei gyhoeddi ym mhapur y Daily Mirror heddiw, mae rhai o’r polisïau yn y maniffesto drafft yn boblogaidd – gyda mwyafrif o blaid gwladoli’r rheilffyrdd, y diwydiant ynni a’r Post Brenhinol a mwyafrif mawr o blaid gwahardd cytundebau dim oriau.