Mae cynllun £3m i dorri coed ger y ffordd rhwng Machynlleth a Dolgellau wedi cael ei ddatgelu heddiw.
Bydd y gwaith ar gefnffordd yr A487 ger Ceinws yn dechrau yn yr hydref a bydd yn cymryd tua 18 mis i’w gwblhau.
Mae nifer o’r coed bellach yn hen ac yn ansefydlog, a thrwy eu torri i lawr mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gobeithio diogelu’r ffordd i bobol a modurwyr.
Bydd y gwaith yn cael gwared â thua 22 hectar o goed – nifer ohonyn nhw wedi eu plannu yn ystod yr Ail Ryfel Byd – ac mae’n debygol o achosi problemau traffig.
Diogelwch yn flaenoriaeth
“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phobl a busnesau’r ardal i leihau effaith ein gwaith lle bynnag y bo’n bosibl, ond ein blaenoriaeth yw cadw pawb yn ddiogel,” meddai Rheolwr Adnoddau Gweithredol Cyfoeth Naturiol, Cymru Steve Cresswell.
“Rydym hefyd yn ymrwymedig i leihau effaith ein gwaith ar fywyd gwyllt. Rydym wedi dechrau eisoes drwy glirio rhywfaint o goed a llystyfiant yn ystod y gaeaf, a byddwn yn meithrin yr arferion gwaith gorau drwy gydol y prosiect.”