Mae Heddlu Gogledd Cymru yn “gynyddol bryderus” am ddynes o Fae Cinmel sydd heb gael ei gweld ers pedwar diwrnod.

Does neb wedi gweld Tracey Kearns, 43, ers 8 o’r gloch nos Sul, Mai 7, ac yn ôl yr heddlu mae ei diflaniad yn “groes i’w natur”.

Mae Tracey Kearns yn bum troedfedd a thair modfedd o daldra, gyda gwallt melynfrown i lawr at ei hysgwyddau. Mae’n siarad ag acen gogledd orllewin Lloegr.