Mae dau safle yn ardal Wrecsam yn cael ei ystyried fel lleoliad newydd Banc Datblygu newydd Cymru yng ngogledd Cymru.

Bydd prif swyddfa’r banc newydd yn gartref i dros 50 o bobol gan gynnwys prif swyddogion y sefydliad.

Bydd Banc Datblygu Cymru yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni  ac mae disgwyl y bydd yn diogelu dros 5,500 o swyddi bob blwyddyn tan 2022.

Amcan y banc bydd i fuddsoddi £1 biliwn i helpu busnesau Cymru dros y pum mlynedd nesaf ac i wneud hi’n haws i fusnesau Cymreig i gael gafael ar gyllid.

“Ffyniant i bob rhanbarth”

“Mae fy mhenderfyniad i leoli prif swyddfa ein Banc Datblygu newydd yn y Gogledd yn rhan o ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i wasgaru ffyniant a swyddi i bob rhanbarth yng Nghymru,” meddai Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates.

“Trwy leoli’r banc yn y Gogledd, bydd yn y lle delfrydol i wneud y gorau o’r cyfleoedd anferth sy’n gysylltiedig â thwf y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol bob ochr i’r ffin.”