Mae cwmni dur Tata yn mynd i gael £660,000 o grant, er mwyn sicrhau swyddi’r diwydiant dur yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod y grant ar gael i gwmni dur Tata er mwyn datblygu cynnyrch gwahanol ac ymchwilio i’r farchnad ar safleoedd Port Talbot a Llanwern.

Y bwriad ydi gwneud yn siwr fod y ddau waith yn y de-ddwyrain yn gallu ateb yr angen am ddarnau dur ar gyfer y diwydiannau ceir ac adeiladu.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r diwydiant dur, ac mae’r cynnig diweddara’ hwn yn dangos ein bod wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol y diwydiant yng Nghymru,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.