Mae dyn 22 oed o’r Rhyl wedi’i arestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â gynnau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod y dyn wedi’i ddwyn i’r ddalfa o ganlyniad i gyrch ar gyfeiriad yn Clifton Park Road yn y dref fore Mercher.

Mae plismyn hefyd yn awyddus i bwysleisio nad oes gan yr ymchwiliad hwn ddim oll i’w wneud â digwyddiadau eraill yn yr ardal yn ddiweddar.