Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i gyhoeddi  adolygiad o gyfradd marwolaethau ar ward iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Cafodd ward Tawel Fan ei chau dair blynedd yn ôl yn dilyn achosion o “gam-drin sefydliadol” ac yn ôl adroddiadau ddaeth i’r amlwg wythnos ddiwethaf fe allai safon y gofal fod wedi arwain at farwolaeth saith claf.

Roedd y ward  o dan ofal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sydd wedi bod dan fesurau arbennig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn ol Andrew RT Davies, Carwyn Jones sydd â’r awdurdod i gyhoeddi adolygiad o’r marwolaethau yn Tawel Fan ond yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog heddiw fe wrthododd roi dyddiad cadarnhaol ar gyfer cyhoeddi’r adolygiad, meddai.

Serch hynny, mae Carwyn Jones wedi cytuno i ysgrifennu at Andrew RT Davies gydag amserlen ar gyfer cyhoeddi’r adroddiad.

Nid oes adroddiad o gyfradd marwolaethau’r ward wedi cael ei gyhoeddi er bod y blaid Geidwadol ar ddeall bod dogfen wedi’i chwblhau.

“Hawl i wybod”

“Mae gan deuluoedd yr hawl i wybod os wnaeth eu perthnasau farw oherwydd gofal is na’r safon disgwyliedig gan staff yn ward Tawel Fan,” meddai Andrew RT Davies, wrth siarad y tu allan i’r siambr.

“Gan fod adolygiad o’r marwolaethau yma wedi cael ei gwblhau, dw i ddim yn gweld rheswm pam na ddylai’r Prif Weinidog eu rhyddhau i’r cyhoedd, a rhoi atebion i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y sgandal.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am ymateb.