Lucie Jones (Llun: o'i chyfrif Twitter swyddogol)
Mae merch o Gaerdydd wedi dweud na fydd hi’n gadael i drafodaethau Brexit amharu ar ei pherfformiad yng nghystadleuaeth yr Eurovision y penwythnos hwn.

Bydd Lucie Jones, sy’n wreiddiol o Bentyrch, yn camu i’r llwyfan yn ninas Kiev yn yr Wcráin dros y penwythnos i gynrychioli gwledydd Prydain.

Dyma fydd y gystadleuaeth Eurovision gyntaf i’w chynnal ers i Brydain bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd fis Mehefin y llynedd.

“Mae yna bleidlais wleidyddol bob blwyddyn y mae pobol yn siarad amdani, ac eleni fe fydd ychydig yn wahanol oherwydd yr hinsawdd wleidyddol sy’n digwydd, ond dydy hynny ddim yn rhywbeth y bydda i’n canolbwyntio arno,” meddai’r ferch 26 oed.

Cynrychiolwyr o Gymru

Bydd Lucie Jones yn perfformio’r gân Never Give Up On You wedi iddi ennill y rhaglen deledu Eurovision: You Decide ym mis Ionawr eleni er mwyn cystadlu yn y gystadleuaeth.

 

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r cynrychiolydd ddod o Gymru wedi i Joe Woolford o Ruthun gael ei ddewis fel rhan o ddeuawd ‘Joe and Jake’ yn Sweden y llynedd.

Mae rowndiau cynderfynol y gystadleuaeth yn dechrau’r wythnos hon, ond mae Lucie Jones eisoes wedi cymhwyso ar gyfer y rownd derfynol dros y penwythnos.