Y Cynulliad Cenedlaethol
Mae’n ymddangos fod sianel ddarlledu ar-lein Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’i heffeithio wrth i nam technegol ddargyfeirio pobol at wefan arall.

O chwilio ‘Senedd.tv’ mewn porwr gwe, mae defnyddwyr yn cael eu dargyfeirio at wefan arall sy’n cynnwys deunydd am gerddoriaeth a ffilmiau o dan yr enw ‘Rock my world’.

Mae llefarydd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymwybodol o’r broblem ac yn parhau i ymchwilio i’r mater.

Dywedodd fod modd parhau i fynd at y wefan fel arfer o roi’r cyfeiriad llawn yn y porwr gwe, sef www.senedd.tv.

Cadarnhaodd eu bod nhw’n parhau i ddatrys y broblem ac yn gobeithio adfer y sefyllfa erbyn y Cyfarfod Llawn yn y Siambr y prynhawn yma.