Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn 67 oed farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig yn Aberhosan ger Machynlleth.

Bu farw’r dyn 67 oed, oedd yn gyrru’r beic modur, ar ôl gwrthdaro â char Xsara Picasso coch.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 9.30 y bore ddydd Llun (Mai 8).

Mae’r heddlu yn galw ar dystion i gysylltu â’r heddlu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 059 Mai 8.