Llun: PA
Mae ymgyrch ryngwladol newydd i annog nyrsys i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru wedi cael ei lansio heddiw.

Mae’n rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i ddenu a hyfforddi mwy o nyrsys, ymarferwyr cyffredinol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i Gymru.

Bydd yr ymgyrch recriwtio yn targedu nyrsys sydd newydd gymhwyso a nyrsys cofrestredig profiadol, yn ogystal â’r rhai sydd o bosibl yn ystyried dychwelyd i’r proffesiwn.

Daw’r lansiad yn sgil ymgyrch ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i recriwtio meddygon teulu,  a honno wedi arwain at gynnydd o 16% yn nifer y lleoedd hyfforddi oedd wei’u llenwi.

“Cymryd camau cadarnhaol”

“Mae Cymru’n wlad ddelfrydol i hyfforddi, gweithio a byw ynddi,” meddai Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething wrth lansio’r ymgyrch.

“Rydyn ni’n rhoi gwerth mawr ar farn broffesiynol nyrsys ac rydyn ni am gyfleu’r neges honno er mwyn denu mwy o nyrsys i ddod i gael blas ar yr hyn sydd gennym i’w gynnig.”

“Rydyn ni’n cymryd camau cadarnhaol i ddenu rhagor o weithwyr proffesiynol ledled y wlad ac mae buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant yn allweddol i ddatblygu ein gweithlu.”

“Costus”

Mae’r Ceidwadwyr wedi croesawu’r cyhoeddiad ond am weld “dibyniaeth” byrddau iechyd Cymru ar “staff asiantaeth hynod o gostus” yn dod i ben.

“Rydym yn croesawu ymgyrch recriwtio’r Ysgrifennydd Iechyd ac yn gobeithio yn y dyfodol na fydd rhaid i fyrddau iechyd ddibynnu ar staff asiantaeth hynod o gostus, sydd wedi cynyddu 50% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf,” meddai llefarydd iechyd  y Ceidwadwyr yng Nghymru, Angela Burns.

“Dylai’r Llywodraeth Lafur fod yn wyliadwrus o’r ffaith nad recriwtio yw’r unig ateb i broblemau staffio’r Gwasanaeth Iechyd, a dylai mwy o gymorth cael ei ddarparu i nyrsys â salwch tymor hir.”