Llun: PA
Mae Llafur yn taro nôl ond mae’r Ceidwadwyr o hyd yn edrych yn debygol o ennill mwyafrif hanesyddol yng Nghymru, yn ôl y pôl piniwn diweddaraf.
Nid yw Llafur yn “barod i roi’r gorau iddi eto” ac mae’n bosib bod yr arolwg diwethaf efallai wedi “gorliwio” dirywiad y blaid yng Nghymru, yn ôl yr Athro Roger Scully wrth ddadansoddi Baromedr Gwleidyddol diweddaraf Cymru, sy’n cael ei gynnal rhwng ITV Cymru Wales a Chanolfan Llywodraethiant Cymru.
Er hyn mae’n nodi bod y pôl yn cadarnhau bod y Ceidwadwyr yn debygol o roi her sylweddol i Lafur yng Nghymru
Mae’n debyg bod y pôl hefyd yn dangos bod y pleidiau llai – Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol ac UKIP – wedi dioddef yn ystod dyddiau cynnar yr ymgyrch etholiadol oherwydd ffocws y cyfryngau ar y frwydr rhwng arweinwyr y ddwy brif blaid, Theresa May a Jeremy Corbyn.
“Canran uchaf y Ceidwadwyr erioed”
Dywedodd 41% o bobol y bydden nhw’n pleidleisio dros y Ceidwadwyr, gyda 35% o’r 1,018 gafodd eu holi yn dweud eu bod yn bwriadu pleidleisio dros Lafur a 11% yn bwriadu pleidleisio dros Blaid Cymru.
Dyma’r canran uchaf i’r Ceidwadwyr mewn unrhyw bôl piniwn yng Nghymru erioed tra bod cefnogaeth am y pleidiau llai wedi disgyn yn raddol.
Y disgwyl yw y tro hwn y bydd y Ceidwadwyr yn cipio naw sedd gan Lafur sef- Alun a Glannau Dyfrdwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Gorllewin Caerdydd, De Clwyd, Delyn, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, Wrecsam, ac Ynys Môn – un sedd yn llai nag y pôl diwethaf.
Yn union fel y pôl diwethaf, mae disgwyl i Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol dal eu gafael ar y seddi sydd ganddyn nhw ond nid oes disgwyl iddyn nhw gipio unrhyw seddi newydd.
Canran o’r bleidlais
Ceidwadwyr: 41% (+1)
Llafur: 35% (+5)
Plaid Cymru: 11% (-2)
Democratiaid Rhyddfrydol: 7% (-1)
UKIP: 4% (-2)
Eraill: 2% (-1)
Nifer y Seddi
Ceidwadwyr: 20 sedd (+9)
Llafur: 16 sedd (-9)
Plaid Cymru: 3 sedd (dim newid)
Democratiaid Rhyddfrydol: 1 sedd (dim newid)