Sarah Jayne Jones o Dredegar (Llun: Heddlu Gwent)
Mae teulu dynes 27 oed, a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng Glynebwy a Brynmawr yng Ngwent, wedi rhoi teyrnged iddi.

Bu farw Sarah Jayne Jones o Dredegar yn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A465 tua 7.30yh ar ddydd Iau, 4 Mai.

Roedd hi’n teithio ar gefn beic modur Yamaha glas pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad a bu farw yn y fan a’r lle.

Cafodd gyrrwr y beic modur, dyn 56 oed, hefyd o ardal Tredegar ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd gydag anafiadau difrifol.

Mewn teyrnged iddi, dywedodd teulu Sarah Jayne Jones ei bod yn “fam, merch, chwaer a modryb garedig” ac yn berson “hapus, llawn bywyd. Fe fydd colled fawr ar ei hol.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 512.