Carwyn Jones Llun: PA
Yn lansiad Llafur Cymru cyn yr etholiad cyffredinol heddiw, doedd dim gair am Jeremy Corbyn a llygaid y gynulleidfa i gyd ar arweinydd arall – Carwyn Jones.

Er hynny, gwadu’r honiad wnaeth Prif Weinidog Cymru fod y blaid yng Nghymru yn ceisio pellhau eu hunain oddi wrth Jeremy Corbyn.

Dywedodd wrth golwg360 fod ganddo ffydd yn arweinydd Llafur ar lefel Prydeinig ond ei bod hi’n briodol bod Llafur yn San Steffan a Llafur Cymru yn “wahanol.”

“Mae ffydd ‘da fi ond lansiad Llafur Cymru oedd e heddiw a phum addewid Llafur Cymru, bydd ‘na lansiad ar lefel Prydeinig dros y diwrnodau nesaf,” meddai.

“Ni’n gwybod bod Llafur Cymru wedi bod yn enw sydd wedi bod yn bwerus iawn yng Nghymru – llynedd [yn etholiad y Cynulliad] ac wrth gwrs yr wythnos ddiwethaf [yn yr etholiadau lleol].”

Lansio ymgyrch Llafur Cymru

Roed y blaid yng Nghaerdydd bore ‘ma yn lansio ei ‘phum addewid’ i etholwyr Cymru cyn yr etholiad cyffredinol.

Roedd yn canolbwyntio yn bennaf ar feysydd datganoledig – gyda llawer o’r addewidion ym maniffesto’r blaid yn etholiadau’r Cynulliad y llynedd.