Bydd cyn-filwyr yng Nghymru sydd yn derbyn gofal cymdeithasol yn cael gwerth llawn eu Pensiwn Anabledd Rhyfel yn dilyn buddsoddiad o £300,000 gan Lywodraeth Cymru.

Daw’r cam yn sgil ymgyrch gan y Lleng Brydeinig Frenhinol wnaeth ddenu sylw at y ffaith bod pensiynau cyn-filwyr oedd wedi eu hanafu yn ystod gwasanaeth wedi eu cwtogi er mwyn talu costau gofal cymdeithasol.

Caiff yr arian ei ddarparu i awdurdodau lleol ac mi fydd yn golygu na fydd yn rhaid i gyn-filwyr ddefnyddio eu Pensiwn Anabledd Rhyfel i dalu am eu gofal.

Bydd y buddsoddiad yn effeithio dros 6,000 o gyn-filwyr yng Nghymru ac mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol  wedi croesawu’r penderfyniad i ddelio â’r “anghysondeb hanesyddol.”

“Haeddu dêl decach”

“Mae arnom ni ddyled sylweddol i gyn-filwyr ein lluoedd arfog, a dyma pam maen nhw’n haeddu cytundeb decach o ran gofal cymdeithasol,” meddai’r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans wrth gyhoeddi’r buddsoddiad heddiw.

“Mae pensiynau yn ffynhonnell bwysig o iawndal i nifer o gyn-filwyr ac mi fydd sicrhau eu bod yn derbyn y swm llawn maen nhw’n haeddu yn helpu gwneud eu bywydau ychydig yn haws.”