Bydd rhaglen sy’n darparu prosiectau diwylliannol a chyfleoedd gwirfoddoli yn derbyn buddsoddiad o £280,000 gan Lywodraeth Cymru eleni.

Cafodd rhaglen Cyfuno ei sefydlu yn 2015 a hyd yma mae’r rhaglen wedi galluogi nifer o weithgareddau gwahanol o berfformiad opera ar fws ysgol i ymweliad gweithiau celf enwog ag ysgolion cynradd.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd i oedolion wirfoddoli mewn amgueddfeydd a sefydliadau ym myd y celfyddydau.

Bydd y buddsoddiad yn  sicrhau bod y rhaglen yn medru para am flwyddyn arall ac yn cynnal cam newydd y rhaglen fydd yn canolbwyntio ar rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

“Llwyddiant mawr”

“Roedd cam peilot ein rhaglen Cyfuno yn llwyddiant mawr, gan ddenu bron 5,000 o bobl i ddiwylliant a’r celfyddydau a’u galluogi i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau,” dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates.

“Rwy’n falch iawn felly ein bod wedi cael estyn y rhaglen am flwyddyn arall a’n bod yn gallu rhoi £280,000 i awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac elusennau i ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl drwy ddiwylliant.”