Matt Johnson (Llun: S4C)
Y cyflwynydd 34 oed o Gaerffili, Matt Johnson, yw’r diweddaraf i drafod ei iselder yn agored, a hynny mewn rhaglen ddogfen newydd ar S4C nos Fercher (Mai 10).

Mae Matt Johnson yn wyneb cyfarwydd am iddo gyflwyno’r rhaglen gylchgrawn This Morning ar ITV ynghyd â chyfres Hwb i ddysgwyr Cymraeg ar S4C rai blynyddoedd yn ôl.

Ond mae’r rhaglen Matt Johnson: Iselder a Fi yn datgelu ei frwydr bersonol gydag iselder a’r adeg pan oedd bron â chymryd ei fywyd ei hun a sut y cadwodd hynny’n gyfrinach am flynyddoedd.

Gyrru drwy storom

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac mae S4C wedi paratoi cyfres o raglenni’n rhoi sylw i’r maes.

Un o’r rheiny yw rhaglen nos Sadwrn (Mai 13) yn dilyn profiadau Alaw Griffiths, 33 oed, sef golygydd y gyfrol Gyrru drwy Storom gafodd ei chyhoeddi ddwy flynedd yn ôl a’r gyfrol gyntaf yn y Gymraeg i drafod iechyd meddwl.

Mae’r rhaglen nos Sadwrn yn sôn am ei brwydr bersonol gydag iselder wedi geni plentyn (post-natal depression).

Mae rhaglen am Stephen Hughes o Ynys Môn sy’n trafod hunanladdiad ei dad a phroblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig – Colli dad, siarad am hynna nos Sul (Mai 14).

Un ymhob 5 ‘yn fwy parod i drafod’

“Rydym yn hynod falch fod S4C yn taflu goleuni ar broblemau iechyd meddwl fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl,” meddai Sara Moseley, cyfarwyddwr Mind Cymru.

“Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’n llysgennad Matt Johnson am siarad yn agored am yr anawsterau mae e wedi eu hwynebu,” meddai gan ddweud fod un ymhob 5 o bobol yn fwy parod i drafod iechyd meddwl ar ôl clywed person enwog yn gwneud hynny.

“Mae hyn yn dangos pa mor hanfodol yw hi fod y rhai sy’n llygad y cyhoedd yn parhau i siarad yn agored yn y cyfryngau,” ychwanegodd Sara Moseley.

“Fel darlledwr cyhoeddus mae hi’n holl bwysig ein bod ni’n rhan o’r sgwrs am iechyd meddwl,” meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C.

“Gobeithio y bydd y rhaglenni hyn yn helpu pobol eraill sydd wedi bod, neu yn mynd trwy sefyllfa debyg ar hyn o bryd,” ychwanegodd.