Fe fydd y fenter yn creu lled-ddargludyddion cyfansawdd Llun: Prifysgol Caerdydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y gallai hyd at 2,000 o swyddi gael eu creu yn ne-ddwyrain Cymru o ganlyniad i ddatblygiad newydd.

Fe fydd y fenter yn creu lled-ddargludyddion cyfansawdd (Compound semiconductors).

 

Mae’r dechnoleg yn cyfrannu at dechnoleg ddiwifr ffonau symudol, trafnidiaeth, ynni solar, pwerdai, dyfeisiau delwedd a diagnosteg mewn gofal iechyd.

Dyma’r prosiect cyntaf i dderbyn cyllid, gwerth £1.2 biliwn, gan Fargen Ddinesig Caerdydd.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo buddsoddiad o £12 miliwn tuag ato, gan ddweud y gallai ddenu hyd at £365 miliwn o arian preifat i fuddsoddi ynddo dros y pum mlynedd nesaf.

 

‘Technoleg gyffrous’

“Mae ein buddsoddiad mawr heddiw yn golygu fod gan Gymru le blaenllaw ym myd y dechnoleg gyffrous hon all newid ein ffordd o fyw,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

“Dyma newyddion gwych i Gymru – a’r cyntaf mewn cyfres o brosiectau newydd cyffrous fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i economi’r De-Ddwyrain.”

 

Bargen Ddinesig

 

Cafodd y cynllun ei arwyddo gan arweinwyr deg awdurdod lleol y Fargen Ddinesig ym mis Mawrth eleni.

Mae’r rhain yn cynnwys Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent , Torfaen a Chasnewydd.

Er bod y trafodaethau am leoliad y safle yn parhau, mae Casnewydd yn un o’r prif ddewisiadau gyda disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau’r haf hwn.

“Dyma’r gwrthdystiad pendant cyntaf o’r Fargen Ddinesig ar waith, ac mae’n anfon neges glir o ymrwymiad i weithredu nid geiriau yn unig,”meddai’r cynghorydd Andrew Morgan o Gyngor Rhondda Cyngor Taf.