Mae dwsinau o bysgod wedi’u lladd gan lygredd yn un o afonydd de-ddwyrain Cymru.

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n ymchwilio wedi iddyn nhw dderbyn adroddiadau am nant sy’n llifo trwy Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg.

Mae tua chant o lysywod a brithyll wedi’i lladd, a’r gred ydi fod dwr y nant “yr un lliw â llaeth”.

“Mae ein swyddogion wrthi heddiw yn ceisio dod o hyd i darddiad y llygredd, ac yn asesu beth fydd effaith hyn ar yr afon yn y tymor hir,” meddai Chris Rees, arweinydd tim Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr ardal.

“Os down ni o hyd i’r tarddiad, fe fyddwn ni’n gallu gwneud yn siwr na fydd llygredd pellach yn digwydd, ac fe fyddwn ni’n gallu cymryd camau yn erbyn y rheiny sy’n gyfrifol am y llygredd, os yw hynny’n addas.”