Irfon Williams (Llun: S4C)
Mae cyn-nyrs sy’n dioddef o ganser nad oes gwella ohono, yn benderfynol o ddweud ei stori a gadael rhywbeth ar ei ol i’w blant.

Yn y rhaglen O’r Galon: Irfon Williams ar S4C nos Sul, Mai 7, mae’r ymgyrchydd o Fangor yn adrodd hanes blwyddyn yn ei fywyd wrth iddo hefyd ysgrifennu llyfr am y cyfnod.

“Mi oedd y ffilmio yn anodd ar adegau,” meddai Irfon Williams, a gafodd glywed am y tro cyntaf ei fod yn dioddef o ganser pan oedd yn 43 oed. Yn ystod ffilmio’r rhaglen, mae’n dathlu ei ben-blwydd yn 46 oed, ac mae ar dân eisiau ysbrydoli pobol eraill.

“Mae codi ymwybyddiaeth yn bwysig ofnadwy,” meddai wedyn, ac ef ei hun wedi brwydro trwy’r ymgyrch #Hawlifyw yn erbyn meddygon a llywodraeth oedd ddim yn fodlon rhoi cyffuriau arbrofol iddo. Erbyn hyn, mae llywodraeth Cymru yn caniatau i gleifion canser y coluddyn gael eu trin â chyffur Cetuximab.

“Ond mae’n bwysig dangos yr ochr arall hefyd,” meddai Irfon Williams. “Nid jyst yr ymgyrchydd, y dyn sydd eisiau gwneud gwahaniaeth, ond ochr y teulu, yr ochr bersonol. O’n i eisiau gwneud y rhaglen er mwyn y plant, er mwyn iddyn nhw gael rhywbeth i edrych yn ol arno fo a chofio.”

Mae Irfon Williams yn dad i bump o blant – o 22 i 6 oed – o ddwy briodas, ac fe gyhoeddodd Gorsedd y Beirdd yn gynharach yr wythnos hon y bydd yn cael ei urddo’n aelod yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon yn Awst eleni.

Mae blas o’r rhaglen i’w gael yn y clip hwn: