Mae hollt yn un o brif haenau iâ
Hollt iâ Larsen C (Llun: NASA)
Pegwn y De yn golygu ei bod bron â thorri’n rhydd, yn ôl tîm ymchwil o Gymru.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn astudio’r data diweddaraf o luniau lloeren gan NASA, yn dweud fod “cangen” newydd sy’n 15km o hyd wedi ffurfio o brif hollt yr haen o rew sy’n cael ei nabod fel ‘Larsen C’.

Mae’n debyg bod y brif hollt 180km o hyd yn tyfu’n gyflym, ac erbyn hyn dim ond 20km o iâ sy’n rhwystro’r darn 5,000 o gilomedrau sgwâr rhag arnofio i ffwrdd.

Ar ôl iddi ymrannu, mae’n bosib y bydd rhewlen ‘Larsen C’ – sydd chwarter maint Cymru – yn dilyn enghraifft ei chymydog, Larsen B ac yn chwalu yn llwyr yn y pen draw.

“Ehangu’n gyson”

“Er nad yw blaen yr hollt blaenorol wedi symud ymhellach, mae cangen newydd wedi cael ei chreu. Mae hyn tua 10km y tu ôl i’r blaen blaenorol, ac yn symud tuag at flaen yr iâ,” meddai Pennaeth y prosiect ymchwil  o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, yr Athro Adrian Luckman.

“Dyma’r newid sylweddol cyntaf yn yr hollt ers mis Chwefror eleni. Er nad yw hyd yr hollt wedi newid ers sawl mis, mae wedi bod yn ehangu’n gyson fesul mwy na metr bob dydd.”