Caerdydd - buddugoliaeth fwya'r Blaid Lafur (Ashley 0690 CCA3.0)
Y diweddara’
– Mae’r bore cynnar wedi gorffen yn dda i’r Ceidwadwyr wrth gipio seddi ym Mro Morgannwg a mwy na dyblu nifer eu cynghorwyr.

Fe gollodd Plaid Cymru seddi wrth i’r Toriaid gipio’r bedair yn yr un ward oedd yn weddill – Dinas Powis.

Mae’n golygu fod ganddyn nhw bellach 23 o seddi – cynnydd o 12 – digon bron i reoli’r cyngor yn ardal Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

Llafur yn cadw Caerdydd

Gyda rhai seddi’n weddill, mae Llafur wedi gwneud digon i ddal grym yng Nghaerdydd ac, efallai, gryfhau.

Gyda rhai seddi eto i’w cyfri, maen nhw wedi ennill 38 o’r 75 sedd, llawer gwell na’r disgwyl.

Ym Mro Morgannwg, mae seddi Dinas Powis yn weddill oherwydd ailgyfri’ a’r Ceidwadwyr eisoes yn gwybod mai nhw fydd y blaid fwya’, gan ennill wyth sedd, yn benna’ oddi ar Lafur.

Yn etholiadau cyngor sir Cymru, roedd hi’n noson gymysg i’r pleidiau i gyd.

  • Llafur – wedi colli gafael ar Flaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr ac, efallai, ar Ferthyr, ond yn gwneud yn well na’r disgwyl hyd yn hyn yng Nghasnewydd, Caerdydd ac Abertawe.
  • Ceidwadwyr – yn ennill tir mewn sawl man, gan gynnwys Pen-y-bont ac yn cipio grym yn Sir Fynwy, ond yn methu ag ennill yn y dinasoedd.
  • Plaid Cymru – ambell berfformiad cry’, er enghraifft yng Nghastell Nedd Port Talbot ond dim enillion syfrdanol.
  • Annibynnol – cryfhau’n gyffredinol ac yn cipio Blaenau Gwent.
  • Democratiaid Rhyddfrydol – yn colli ychydig o dir.

Dyma’r canlyniadau llawn hyd yn hyn

Abertawe

Rhyddhad mawr i Lafur, gan ddal gafael mewn grym a dim ond cynnydd bach i’r Ceidwadwyr, yn benna’ ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol.

Llafur                    48 (-1)

Ceidwadwyr          8  (+4)

Dem Rhydd         7  (-5)

Arall                        9 (+2)

 

Blaenau Gwent

Roedd yr AC lleol. Alun Davies, yn siomedig wrth i Lafur golli rheolaeth. Yr Annibynwyr sydd bellach yn rheoli a’r arweinydd Llafur, Brendan Toomey, wedi colli ei sedd.

Annibynnwyr       26 (+14)

Llafur                    12 (-17)

Plaid Cymru         1 (+1)

(Heb gynnwys ward Blaina eleni)

Bro Morgannwg

Ceidwadwyr     23 (+12)

Llafur                 14 (-7)

Annibynnol         6 (-1)

Plaid Cymru        4 (-3)

UKIP                     0 (-1)

Casnewydd

Dyma ardal lle’r oedd y Ceidwadwyr yn disgwyl gwneud yn dda, gyda llygad ar y ddwy sedd yn yr Etholiad Cyffredinol … ond fe lwyddodd Llafur i ddal ei thir yn weddol.

Llafur                    31 (-6)

Ceidwadwyr        12 (+2)

Annibynnol          5  (+3)

Dem Rhydd         2  (+1)

 

Castell Nedd Port Talbot

Dyma berfformiad cryfa’ Plaid Cymru cyn y cyfri’ yn eu cadarnleoedd, gan ddechrau wneud marc yn ardal Port Talbot. Ond maen nhw’n dal i fod yn wannach nag ar ddechrau’r Milenniwm.

Llafur                    45 (-7)

Plaid Cymru         15 (+7)

Annibynnol          5

Dem Rhydd         1 (+1)

 

Ceredigion

Mae’r arweinydd, Elen ap Gwynn, eisoes wedi dweud y bydd rhaid i Blaid Cymru gydweithio er mwyn parhau i arwain y cyngor

Plaid Cymru         19

Annibynnol          13 (-1)

Dem Rhydd         8 (+1)

Llafur                    1

Gwag                    1

Merthyr Tudful

Mae’r canlyniad yn y fantol, gyda thair sedd i’w penderfynu ymhen y mis, ar ôl marwolaeth un ymgeisydd. Ond mae Llafur wedi colli’n drwm ac mewn peryg o golli rheolaeth.

Llafur                    14 (-9_

Annibynnol          16 (+7)

UKIP                     0 (-1)

Pen-y-bont ar Ogwr

Colled drom i Lafur, yn ardal Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Cynnydd anferth i’r Ceidwadwyr, efallai o ganlyniad i ymweliad gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May.

Llafur                    26 (-13)

Ceidwadwyr        11 (+10)

Annibynnol          13 (+3)

Plaid Cymru         3 (+2)

Dem Rhydd         1 (-2)

 

Sir Fynwy

Y Ceidwadwyr yn cryfhau digon i allu rheoli heb gymorth y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ceidwadwyr        26 (+7)

Llafur                    10 (-2)

Annibynnol          5  (-5)

Dem Rhydd         3

Sir y Fflint

Dyma ardal lle mae Llafur yn fregus yn yr Etholiad Cyffredinol, ond roedd y canlyniad yn galonogol iawn iddyn nhw a’r Ceidwadwyr yn colli tir.

Llafur                    34 (+3)

Annibynnol          23 (+4)

Ceidwadwyr         6 (-2)

Dem Rhydd         5 (-2)

Eraill                     2 (-2)

Plaid Cymru         0 (-1)

 

Torfaen

Yn wahanol i’w cymdogion ym Mlaenau Gwent, fe wnaeth Llafur yn dda a Phlaid Cymru’n colli ychydig o dir.

Llafur                    29 (-1)

Annibynnol          11 (+3)

Ceidwadwyr            4

Plaid Cymru             0 (-2)

 

Wrecsam

Yr Annibynwyr bellach yw’r garfan fwya’, gan ddisodli Llafur, a gafodd golledion trwm. Roedd enillion bach i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr.

Annibynnol          27 (+8)

Llafur                    11 (-12)

Ceidwadwyr        9 (+4)

Plaid Cymru         3 (+2)

Dem Rhydd         2 (-2)