Clawr y rhifyn diweddaraf o Private Eye
Mae cylchgrawn dychanol Private Eye wedi cyhoeddi llythyr Cymraeg yn trafod ffrae iaith Ysgol Llangennech… ond mae’r llythyr wedi’i greu yn defnyddio rhaglen gyfieithu Google Translate ac yn annealladwy mewn mannau.

Fis yn ôl, fe gyhoeddodd y cylchgrawn lythyr gan Dr Gareth Rees o Lanafan yng Ngheredigion, oedd yn beirniadu darllenwr arall, David Howard o’r Gelli Gandryll am ei “ragfarn bychanfrydig” yn erbyn y Gymraeg.

Roedd David Howard wedi bod yn cwyno bod “gormod o arian” yn cael ei wario ar gyfieithu dogfennau’n ddi-angen tra bod “llyfrgelloedd, toiledau cyhoeddus, gofal cymdeithasol i’r henoed a gwasanaethau eraill sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus yn cael eu torri’n ddyddiol”.

Wrth ymateb, dywedodd Gareth Rees nad yw sylwadau David Howard yn adlewyrchu’r farn gyffredin ar lawr gwlad ar yr iaith ac addysg Gymraeg.

Roedd y Prif Lenor, Robin Llywelyn, eisoes wedi herio’r cylchgrawn ar fater troi Ysgol Llangennech ger Llanelli yn ysgol gyfrwng Cymraeg.

Llythyr wedi’i Googlo

Yn y llythyr diweddaraf, mae Chris Webb o Stevenage yn cynnig ateb i’r broblem – gan ddefnyddio Google Translate i gyfieithu ei lythyr.

Fe ddywed: “Byddai’r dadleuon sy’n cefnogi’r syniad o fod Cymraeg Iaith Gyntaf yn yr ysgolion yn cael ei roi yn fwy cryf cawsant eu hysgrifennu yn Gymraeg!”