Mae cynnydd yn nifer y ceisiadau am ofal iechyd ar ran rhywun arall yn rhoi pwysau ychwanegol ar system iechyd ddiffygiol, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

Mae adroddiad gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn nodi effaith y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a gafodd eu cyflwyno yn 2009.

Cawson nhw eu cyflwyno er mwyn rhoi cymorth i bobol nad ydyn nhw’n gallu cydsynio i driniaeth neu ofal naill ai mewn ysbyty neu gartref gofal.

Dim ond o dan amodau lle nad yw’n briodol cadw rhywun o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl y mae modd defnyddio’r canllawiau.

Yn 2014, daeth Tŷ’r Arglwyddi i’r casgliad nad oedd y canllawiau’n addas i’w diben, gan argymell y dylai Comisiwn y Gyfraith gynnal adolygiad.

Daeth yr adolygiad i’r casgliad fod awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Iechyd dan gymaint o bwysau fel nad oedden nhw’n bodloni eu dyletswyddau cyfreithiol, ac nad oedd cleifion yn byw mewn lleoliadau eraill, gan gynnwys llety byw â chymorth, yn cael eu hamddiffyn.

Yn ôl yr adroddiad:

  • Mae cyfanswm y ceisiadau a dderbyniwyd gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol o dan y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid wedi parhau i gynyddu
  • Gwelodd byrddau iechyd y cynnydd mwyaf yn nifer y ceisiadau a dderbyniwyd
  • Aeth 74% o geisiadau a oedd yn ymwneud ag awdurdodiadau brys heibio i’r amserlen o saith diwrnod ar gyfer prosesu
  • Ni wnaeth dau awdurdod lleol fodloni’r amserlen ar gyfer asesu’r un o’r ceisiadau brys a dderbyniwyd ganddynt
  • Mae byrddau iechyd yn derbyn rhagor o geisiadau brys nag awdurdodau lleol, gyda thros 60% o’r holl geisiadau’n rhai brys
  • Roedd nifer y ceisiadau brys yn arwain at oediadau hirach cyn y gellid gwneud penderfyniad
  • Roedd ceisiadau brys yn derbyn blaenoriaeth dros geisiadau safonol ac roedd hynny’n cael effaith negyddol ar amseroedd prosesu ar gyfer ceisiadau safonol
  • Mae’r cyfnod mae awdurdodiadau ar waith wedi cynyddu ers 2014–15