Mae casgliad treftadaeth filwrol y Ffiwsilwyr Cymreig yng Nghastell Caernarfon wedi cael hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r arian a gafodd ei gyhoeddi gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates yn diogelu’r casgliad – y mwyaf o’i fath y tu allan i Lundain – am dair blynedd arall.

Y Ffiwsilwyr Cymreig yw’r gatrawd Gymreig hynaf, a bydd eu hamgueddfa yn Nhŵr y Siambrlen a Thŵr y Frenhines y castell yn aros ar agor tan o leiaf 2020 diolch i’r buddsoddiad.

Ymhlith y casgliad mae llythyrau, cerddi, ffotograffau ac eitemau amrywiol eraill.

Bydd yr Amgueddfa’n derbyn £270,000 dros gyfnod o dair blynedd.

‘Gwasanaeth gwerthfawr iawn’

Wrth gyhoeddi’r arian, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod yr Amgueddfa’n darparu “gwasanaeth gwerthfawr iawn ers y 1960au”.

Mae Cadeirydd Pwyllgor Rheoli yr Amgueddfa, y Cyrnol Peter Knox wedi croesawu’r arian ac fe ddywedodd ei fod yn “gwerthfawrogi ein perthynas hir â Cadw a Llywodraeth Cymru”.