Mae 24 o bobol o ardal Casnewydd bellach wedi cael eu cyhuddo yn dilyn cyrch cyffuriau wythnos ddiwethaf.
Maen nhw wedi cael eu cyhuddo o fod a chyffuriau yn eu meddiant gyda’r bwriad o gyflenwi cyffur Dosbarth A.
Cafodd 27 o bobol eu harestio yn dilyn y cyrch yng Nghasnewydd ar ddydd Mercher, Ebrill 26.
Dywed Heddlu Gwent eu bod yn dal yn awyddus i siarad â dau ddyn arall mewn cysylltiad â’r cyrch.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr ymchwiliad ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 141.