Coedwig Cwmcarn (Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau fod y gwaith o ailstocio coedwig Cwmcarn ger Casnewydd wedi ailddechrau, a hynny yn dilyn cyfnod o dorri coed i waredu â haint Phytophthroa Ramorum.

Fel rhan o’r prosiect, bu’n rhaid cau’r ffordd goedwig yn 2014, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau ei bod yn dal ynghau wrth i’r gwaith o gwympo’r coed symud i ganol a gogledd y goedwig.

Er hyn mae atyniadau gan gynnwys y Ganolfan Ymwelwyr, llwybrau cerdded a llwybrau beicio mynydd ar agor.

Ac mae deiseb ar-lein yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn ailagor y ffordd erbyn Pasg 2018.

‘Lleoliad poblogaidd’

Mewn ymateb i’r ddeiseb dywedodd Sally Tansey, Rheolwr Tir Rhanbarthol Cyfoeth Naturiol Cymru – “Rydym yn ymwybodol fod Coedwig Cwmcarn a Rhodfa’r Goedwig yn lleoliad poblogaidd iawn, ac rydym am ddiolch i’r bobol leol a’r ymwelwyr am eu hamynedd a’u cydweithrediad wrth i ni gwblhau’r gwaith pwysig hwn.”

“Rydym yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ystyried opsiynau gwahanol ar gyfer perchnogaeth a rheolaeth, ac archwilio posibiliadau ar gyfer y dyfodol.

“Byddwn yn parhau i ymgynghori â’r bobol sy’n byw’n agos at neu’n mwynhau Coedwig Cwmcarn wrth i’n cynlluniau ddatblygu,” meddai.

Coed

Mae tua 170,000 o goed newydd wedi eu plannu yng Nghoedwig Cwmcarn erbyn hyn gyda’r gobaith y byddan nhw’n gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd ac unrhyw glefydau yn y dyfodol.

Mae’r gwaith o gwympo’r coed yn parhau gyda mwy na 160,000 o goed wedi’u heintio wedi’u cwympo yn y blynyddoedd diwethaf.