Plentyn yn cael prawf am diabetes Llun: Llywodraeth Cymru
Mae gofal diabetes ar gyfer plant a phobol ifanc yng Nghymru wedi gwella, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae nifer y plant a phobol ifanc sydd â diabetes math 1 ac sy’n llwyddo i gael lefel y glwcos yn y gwaed o fewn y targed swyddogol wedi cynyddu o 17.8% rhwng 2014 a 2015, i 27.2% rhwng 2015 a 2016.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod nifer y plant sydd â lefelau uchel o glwcos yn y gwaed wedi gostwng o 21.6%  i 18.6% yn ystod yr un cyfnod o amser.

Daw’r adroddiad i’r casgliad bod gofal i fenywod beichiog a chleifion yn yr ysbyty sydd â chlefyd y siwgr hefyd wedi gwella.

“Camau breision”

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod gofal diabetes pediatrig wedi gwneud camau breision mewn perthynas ag ansawdd y gofal a’r canlyniadau a welwyd dros y chwe blynedd diwethaf,” meddai Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething.

“Bydd effaith y gwelliant yn lefelau’r glwcos yn y gwaed ynghyd â rhai o’r gwelliannau mewn rhai o’r prosesau gofal hanfodol yn lleihau’r risg o gymhlethdodau yn y dyfodol. Mae hyn yn newyddion da i blant a phobl ifanc.”

“Lle i wella”

Ond yn ôl Cyfarwyddwr elusen Diabetes UK Cymru, Dai Williams mae lle i wella:  “Rydym yn falch i weld gwelliant yng ngofal diabetes yng Nghymru yn enwedig i blant a phobol ifanc â diabetes math 1.

“Ond er bod y llwyddiannau caiff eu hamlygu yn yr adroddiad yn wych, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn ystyried y meysydd lle mae angen gwella.”

Mae elusen Diabetes UK Cymru, am weld gwelliannau pellach gan gynnwys diagnosis cynharach i blant â diabetes math 1 a gwell hyfforddiant ac adnoddau i staff er mwyn medru gwneud diagnosis cynharach.