Angharad Bullock sydd ar goll gyda'i mab (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth am fam a’i phlentyn o Abertawe sydd ar goll.
Nid yw Angharad Bullock, 39, a’i mab, 3 oed, o Dreforys wedi cael eu gweld ers dydd Gwener, 28 Ebrill.
Dywed swyddogion eu bod yn bryderus am les Angharad Bullock a’i phlentyn.
Bu’r heddlu’n chwilio am y ddau dros y penwythnos ond ni chafwyd hyd iddyn nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i wneud ymholiadau ond nad yw’r ddau wedi cael eu gweld hyd yn hyn.