Mae pump o bobl bellach yn cael eu holi ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn y Rhyl yn ystod oriau mân fore dydd Sul.

Bu farw dyn 37 oed o Fanceinion yn Ysbyty Glan Clwyd ar ôl cael ei drywanu yn Rhodfa Tywysog  Edward yn Y Rhyl.

Cafodd tri dyn arall driniaeth yn yr ysbyty am anafiadau sydd ddim yn rhai sy’n bygwth eu bywyd.

Mae dyn 43 oed o’r Rhyl a dau fachgen lleol, 15 a 16 oed, yn cael eu holi gan yr heddlu ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Cafodd dau fachgen arall, 16 a 17 oed, eu harestio ar amheuaeth o lofruddio yn ddiweddarach.

Dywed Heddlu’r Gogledd fod pum dyn arall, sydd ddim yn dod o’r ardal, wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi ffrwgwd ac anafu.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Simon Williams: “Ar hyn o bryd nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r ymchwiliad. Ond rydym yn parhau i apelio am lygad dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio ni ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod V061153.”